Amgueddfa Cymru
Diweddariad ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu
Ionawr 2019
Llwyddiannau yn 2018
Twf mewn Niferoedd Ymwelwyr
Croesawom 1,800,000 o ymwelwyr i’n saith
amgueddfa genedlaethol yn 2017-18 gyda 42% ohonynt yn dod o du hwnt
i Gymru. Dyma’r nifer mwyaf o ymwelwyr ers sefydlu’r
Amgueddfa ym 1907 ac roedd yn gynnydd o 101.7% ers 2001, pan
gyflwynwyd polisi mynediad am ddim Llywodraeth Cymru. Yn ogystal
â hyn cyrhaeddwyd dros 150,000 o ddilynwyr ar Facebook,
Twitter a YouTube, ac edrychodd 1.6 miliwn o bobl ar bron i 6.2
miliwn o dudalennau ar ein gwefan.
Ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Lansiwyd
ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Hydref,
prosiect a wnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth helaeth gan Gronfa
Treftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru.
Roedd pobl ledled Cymru yn rhan o’r ailddatblygiad, wrth
ddylunio tair oriel newydd ac ail-greu’r llys canoloesol,
Llys Llywelyn - gan greu hanes gyda’r cyhoedd yn hytrach nac
ar eu cyfer, a hwyluso mynediad pobl at eu hawliau diwylliannol.
Buom hefyd yn cydweithio ag artistiaid, crefftwyr, pobl ifanc,
academyddion a grwpiau cymunedol i ail ddylunio’r
Amgueddfa.
Codwyd £960,000 ar gyfer apêl codi arian cyfalaf Sain
Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gan gynnwys buddsoddiad gan Sefydliad
Garfield Weston, Sefydliad Foyle a Sefydliad Moondance. Roedd
agoriad siop a bwyty newydd yn Sain Ffagan hefyd yn rhan o’r
ailddatblygiad.
Daeth miloedd o ymwelwyr i’r Amgueddfa yn ystod y penwythnos
cyntaf ac mae'r orielau wedi derbyn ymateb cadarnhaol. Mae ymwelwyr
wedi mwynhau gweithgareddau yn yr orielau, ac ymateb yn dda i'r
cynnwys, ac maent eisoes yn darparu adborth. Mae Sain Ffagan eisoes
wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobr Twristiaeth a Hamdden RICS
Cymru a Chymeradwyaeth Uchel ledled y DU; Gwobr Crefftwyr neu
Brentisiaid Gorau, Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru a’r
Ailddatblygiad o Adeilad Hanesyddol gorau dros £5 miliwn,
Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru.
Digwyddiadau ac Arddangosfeydd
Cynhaliwyd
29 o arddangosfeydd a 13 arddangosiad yn ein hamgueddfeydd a
gyda’n sefydliadau partner, gan adrodd straeon ysbrydoledig a
dathlu iaith a diwylliant byrlymus ein cenedl.
Buom yn gweithio gydag Asiantaeth Ddiwylliannol Llywodraeth Japan
ac Amgueddfa Genedlaethol Hanes Japan i ddod a Kizuna: Dylunio
Japan Cymru i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn haf 2018.
Arddangosfa fawr o gelf a dylunio Japaneaidd oedd Kizuna -
yr un mwyaf o’i math y tu allan i Lundain - a lwyddodd i
ddenu bron i 60,000 o ymwelwyr yn ystod cyfnod o 12 wythnos.
Dathlwyd 25 mlynedd ers sefydlu ein partneriaeth ag Ymddiriedolaeth
Derek Williams gyda Penderfyniad Pwy?, arddangosfa fawr o
gelf gyfoes mewn partneriaeth gydag elusen digartrefedd The
Wallich. Cafodd yr arddangosfa arloesol ei churadu gan 12 o fenywod
a dynion sydd wedi profi digartrefedd yng Nghymru, gan ddenu dros
91,000 o ymwelwyr.
Yn
berthnasol i #MeToo, Merched a Ffotograffiaeth oedd yr
arddangosfa ffotograffiaeth ar gyfer ein horiel ffotograffiaeth
barhaol newydd, oedd yn canolbwyntio ar sut y defnyddiwyd
ffotograffiaeth i gamliwio merched trwy eu gwrthrycholi a’u
delfrydu.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd gweithiodd Amgueddfa Cymru mewn
partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Comisiwn
Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Amgueddfa Stori
Caerdydd, Archifdy Morgannwg ac eraill i ddod â straeon a
gwrthrychau Bae Caerdydd yn fyw i ymwelwyr.
Datblygwyd Strategaeth Digwyddiadau a Chynllun Gweithredu ar gyfer
2018-23. Roedd rhaglenni llwyddiannus yn cynnwys: dathliadau
Diwali, Mis Hanes Pobl Dduon Cymru, Pride ac LGBT+; roedd rhaglenni
newydd yn cynnwys Disgo Tawel a digwyddiadau Dros Nos; yn ogystal
ag ail gyflwyno nosweithiau Nadolig a Chalan Gaeaf yn Sain Ffagan
Amgueddfa Werin Cymru.
Partneriaethau
a Chyfranogiad
Rydym wedi gweithio ar y cyd â thros 120 o elusennau a
sefydliadau sector cyhoeddus. Mae gweithio ar y cyd yn ein galluogi
i ganolbwyntio ar anghenion hirdymor, gan sicrhau ein bod yn
defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol er budd pobl
Cymru.
Rydym yn bartner diwylliannol allweddol ac yn ddarparwr rhaglen
Cyfuno: creu cyfleoedd trwy ddiwylliant lle buom yn gweithio
gydag amrywiaeth enfawr o bartneriaid gan gynnwys wyth awdurdod
lleol. Roeddem hefyd yn un o ddeuddeg o sefydliadau ledled y DU i
dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y
Loteri i ddatblygu Tynnu’r Llwch, rhaglen pum mlynedd
i gynyddu ymgysylltiad ieuenctid â threftadaeth yng
Nghymru.
Agorwyd Ystafell Ymlacio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a
gafodd ganmoliaeth arbennig yng ngwobrau Cyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru. Ysbrydolwyd y cysyniad gan wirfoddolwr yn ei
arddegau sydd ag awtistiaeth, ac mae’r gofod yn creu cyfle i
bobl gymryd hoe, ymlacio a theimlo’n llonydd.
Dysgu am Oes
Rydym
yn parhau fel darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth
mwyaf Cymru, gan groesawu 187,249 o ddisgyblion a myfyrwyr a thros
420,995 o ddysgwyr anffurfiol yn 2017/18.
Lansiwyd Ar Lafar yn Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa
Genedlaethol y Glannau a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sef
gwŷl i bobl sy’n dysgu Cymraeg a ddatblygwyd ar y cyd
â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cymerodd 635 o
ddysgwyr ran yn yr Ŵyl, sydd bellach wedi ennill ei phlwyf yn
y rhaglen flynyddol.
Mae ein rhaglen addysg ddigidol fywiog yn cyrraedd dros 192,000 o
ddefnyddwyr. Ymhlith y profiadau digidol dwyieithog newydd mae
iBook dwyieithog yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Rhithdaith
Danddaearol Google yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Cafodd ei
chreu yn rhan o raglen rhithdeithiau Google sydd â’r
nod o gyrraedd 1 miliwn o blant ysgol ledled y DU. Defnyddiwyd y
Rhithdaith i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i
baratoi ar gyfer eu hymweliad dan ddaear, a dyma’r daith
gyntaf o’i math i gael ei chreu yn y Gymraeg.
Yn ogystal â hyn datblygwyd ein rhaglen Blynyddoedd Cynnar ar
gyfer plant dan bump oed er mwyn cefnogi teuluoedd sydd dan
anfantais, yn enwedig teuluoedd sy’n byw yn yr Ardaloedd
Arloesi.
Cynhyrchu
Incwm a Chodi Arian
Buom
yn parhau i amrywio ein cyllid drwy ymchwil, codi tâl, elw
cwmni masnachol a refeniw codi arian gan arwain at 46% o gynnydd
cyffredinol yn ein hincwm net, gyda £1.9 miliwn o
roddion.
Mae ein rhaglen ar gyfer Ymwelwyr Llongau Mordaith yn mynd o nerth
i nerth yn Amgueddfa Lechi Cymru, gyda 1,200 o bobl yn ymweld
o’r MV Corinthian. Cafodd teithwyr brynnu pecyn croeso
personol oedd yn cynnwys pryd bwyd chwarelwr, cyflwyniad am hanes y
gymuned a chyfle i gwrdd ag un o chwarelwyr yr
Amgueddfa.
Ymchwil
a Chadwraeth
Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae ein gwyddonwyr wedi darganfod dros
400 o rywogaethau byw a diflanedig mewn dros 65 o wledydd.
Ar hyn o bryd mae gennym 68 o brosiectau arloesol ar y gweill ym
meysydd y gwyddorau naturiol, celf, hanes a’r gwyddorau
cymdeithasol.
Ymhlith ein 5 miliwn o wrthrychau a threftadaeth anniriaethol mae
un o’r casgliadau gorau o gelf Argraffiadol tu hwnt i
Baris.
Cefnogi Sgiliau a Gwirfoddoli
Penodwyd
pedwar prentis mwyngloddio newydd yn Big Pit Amgueddfa Lofaol
Cymru, gan gynnwys tywysydd benywaidd cyntaf y safle; cefnogwyd
prentisiaethau crefft yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a
phenodwyd gof yn Amgueddfa Lechi Cymru.
Rhoddodd dros 700 o wirfoddolwyr 29,000 o oriau o’u hamser.
O’r rhain mae 42% dan 25 oed ac mae 4% o’n
gwirfoddolwyr newydd yn nodi eu bod o gefndir du, Asiaidd neu o
leiafrifoedd ethnig.
Mae 8% o’n gwirfoddolwyr yn nodi fod ganddynt anabledd neu
anghenion dysgu ychwanegol. Gweithiwyd gyda sefydliadau megis
Cymdeithas Syndrom Down a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Cymru i sicrhau fod ein rhaglen wirfoddolwyr yn fwy hygyrch. Yn
Ebrill 2018 roedd yr Amgueddfa yn llwyddiannus gyda dyfarniad
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am ein gwaith rhagorol wrth weithio
gyda gwirfoddolwyr.
Beth sydd gan 2019 i’w gynnig?
Dysgu am Oes
Rydym yn datblygu rhaglenni ac adnoddau i gefnogi’r cwricwlwm
newydd sydd ar y gweill ac rydym yn datblygu perthynas newydd gyda
chyrsiau Tystysgrif Addysg Uwchraddedig ledled Cymru. Rydym yn
gobeithio lansio Adroddiad Sgiliau yn 2019 a byddwn yn parhau gyda
rhaglen prentisiaeth Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
Gwerthuso
Byddwn
yn cynnal gwerthusiad manwl o ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa
Werin Cymru i sicrhau bod y gwersi a ddysgir yn cael eu rhannu
gyda'r sector ehangach. Byddwn hefyd yn ail-frandio Gŵyl Fwyd
Sain Ffagan i ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed ac yn cynnig cyrsiau
crefft ar draws Amgueddfa Cymru.
Iechyd a Lles
Mae
Amgueddfa Cymru yn rhan o ymgyrch Amser Newid Mind Cymru ac rydym
wrthi’n datblygu cyfres o raglenni i gefnogi lles staff.
Byddwn hefyd yn ymgeisio am gyllid ychwanegol i gefnogi rhaglenni
iechyd a lles newydd. Rydym yn gweithio ar gais Buddsoddwyr Mewn
Pobl a chawsom ymateb gan 69% o staff. Mae 28 aelod o staff ar
draws Amgueddfa Cymru yn awr yn gweithio ar y cyd i ddatblygu
Cynllun Gwaith ar gyfer y sefydliad.
Effaith
Economaidd
Mae pob £1 a fuddsoddir gan Lywodraeth Cymru yn Amgueddfa Cymru yn cynhyrchu £4 o wariant ychwanegol yng Nghymru. Dyma'r cyfraniad uchaf gan unrhyw sefydliad diwylliannol sydd wedi'i ariannu'n gyhoeddus yng Nghymru, gan gyfrannu £83 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) i economi Cymru. Mae nifer yr ymwelwyr o'r tu allan i Gymru wedi cynyddu o 37% yn 2012 i 42% yn 2018. Yn sgil y gwaith adeiladu ar gyfer ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mae’r Amgueddfa wedi cyfrannu £27 miliwn o fusoddiad cyffredinol at economi Cymru a’r DU.
Arddangosfeydd
Gan
adeiladu ar ein gwaith ffotograffiaeth yng Nghymru rydym yn
cynllunio tymor ffotograffiaeth mawr. Bydd hyn yn cynnwys y
ffotograffwyr rhyngwladol enwog Martin Parr, Ernst a Hilla Becher
ac Awst Sander ar gyfer Hydref 2019.
David Nash: Cerflunwaith Drwy'r Tymhorau
fydd arddangosfa unigol gyntaf David yng Nghymru, fydd yn
pwysleisio pwysigrwydd Capel Rhiw fel stiwdio ac amgylchedd i
gerfluniau Nash.
Mae
Fossil Swamp Amgueddfa Cymru wedi bod yn gweithio gyda Grŵp
Treftadaeth Brymbo am flynyddoedd i ddiogelu darganfyddiadau ffosil
o'r radd flaenaf o safle Gwaith Dur Brymbo. Bydd yr arddangosfa yn
pwysleisio pam fod angen defnyddio ffynonellau egni mwy cynaliadwy,
wrth weithio gyda’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol
a’r Ddeddf Amgylchedd i gefnogi’r llywodraeth a
Gweledigaeth Amgueddfa Cymru.
Byddwn
yn croesawu ein harddangosfa codi tal i deuluoedd, Nadroedd,
yn haf 2019.
Leonardo
500-
Yn 2019, i nodi 500 mlynedd ers marwolaeth Leonardo, mae'r
Ymddiriedolaeth Casgliad Brenhinol wedi trefnu rhaglen lle byddant
yn benthyg 12 llun Leonardo i 12 o sefydliadau ar draws y DU. Codir
tâl ar gyfer yr addangosfa hon.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn gweithio ar eu
harddangosfa 1918: Dychwelyd i Heddwch sy'n canolbwyntio ar
ddiwydiant ar ddiwedd y rhyfel.
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn gweithio gyda cymunedau
lleol ar gyfer digwyddiad ym mis Chwefror 2019 i goffáu
Dawns Buddugoliaeth a gynhaliwyd yn Sefydliad Oakdale yn
1919.
Yn 2019 byddwn yn cyflwyno arddangosfa Blwyddyn Darganfod yn Oriel
Y Parc gan ddefnyddio casgliadau archaeoleg, daeareg a chelf
Amgueddfa Cymru i archwilio hanes Sir Benfro, newid yn yr hinsawdd
a pherchenogaeth ddiwylliannol. Byddwn hefyd yn datblygu
partneriaeth ar y cyd tair blynedd gyda PCNPA, OyP a rhanddeiliaid
lleol, gyda'r bwriad o ddatblygu cynulleidfaoedd newydd a sicrhau
fod ymgysylltu â'r gymuned wrth galon rhaglen OyP.
Byddwn yn gweithio ar y cyd ag Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
i gynhyrchu arddangosfa ynglŷn â dylunio Mantell Aur yr
Wyddgrug. Mae Mantell Aur yr Wyddgrug yn fantell aur
seremonïol unigryw, a wnaed yn ystod Oes yr Efydd tua 3,700 o
flynyddoedd yn ôl. Bydd yr arddangosfa hon yn canolbwyntio ar
ganfyddiadau archeolegwyr arbrofol ynglŷn â sut y
dyluniwyd y fantell sy’n rhan o archaeoleg
Cymru.
Hen
Goleg Aberystwyth: Bydd yr arddangosfa hanes naturiol hynod
boblogaidd Mwydod! Y Da, Y Drwg a’r Hyll yn cael ei
gyflwyno yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2019, i
gefnogi cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri i greu oriel amgueddfa
safonol ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas
â'r brifysgol ymhellach.
Byddwn
yn gweithio gydag Amgueddfeydd Cas-gwent a'r Fenni i gefnogi
rhaglenni yn y dyfodol ac yn archwilio ffyrdd newydd o weithio
gydag amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru gyda Ffederasiwn
Amgueddfeydd Cymru.
Gan adeiladu ar y berthynas gref rhwng Amgueddfa Cymru a Japan,
rydym yn anelu at lansio arddangosiad delwedd ddigidol o Bapurau
Mwyngloddio Glo unigryw Sakubei Yamamoto, fydd yn cael eu
harddangos yn Big Pit yn 2019-2020.
Cynhyrchu Incwm a Chodi Arian
Yn 2017/18 - y flwyddyn
ariannol lawn ddiwethaf - allan o gyfanswm o £36.6 miliwn
mewn incwm, cododd yr Amgueddfa £9.5 miliwn o bob ffynhonnell
nad yw'n grant (gan gynnwys trosiant cwmni masnachu, rhoddion
cyfyngedig a rhoddion anghyfyngedig a nawdd). Roedd hyn yn cynnwys
incwm refeniw net anghyfyngedig, sydd ar gael ar gyfer
gweithgareddau craidd yr Amgueddfa, sef £1.25m (gan gynnwys
ymchwil a chodi tâl, elw a chodi arian cwmni masnachol a
chodi arian refeniw). Mae hyn yn gynnydd o 46% ar 2016/17, gan
adlewyrchu ymdrechion yr Amgueddfa i ehangu ei gweithgareddau
cynhyrchu incwm. Mae'r Amgueddfa yn ehangu'r gweithgareddau hyn
ymhellach ac yn recriwtio Cyfarwyddwr Masnachol i fwrw ymlaen
â hyn.
Cefnogi Nodau Cenedlaethol Llywodraeth
Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru'n
gweithio gyda sefydliadau cenedlaethol Cymru i helpu'r genedl i
gyflawni nodau Lles Deddf Cenhedlaethiadau'r Dyfodol (2015) ar
gyfer addysg, iechyd a lles (megis drwy raglenni dementia), mynd
i'r afael â thlodi, newid amgylcheddol (e.e.drwy fonitro
rhywogaethau a tacsonomeg) a datblygiad economaidd. Mae ein
Gweledigaeth ac Amcanion yn cyd-fynd â'r Nodau
Lles.
Ymgysyllt â mwy o ymwelwyr digidol
Yn ddiweddar
symudodd y wefan i ddefnyddio .wales /.cymru ac mae wedi'i
ailgynllunio'n llwyr er mwyn gwella trefniant, e-fasnach, ac i
ddarparu mwy o’r wybodaeth ddiweddaraf am Gymru a’i lle
yn y byd. Mae'r wefan yn denu oddeutu 1.6 miliwn o ymweliadau y
flwyddyn. Mae ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu
460% dros y tair blynedd diwethaf, ers gweithredu ein Polisi
Cyfryngau Cymdeithasol a'n rhaglen hyfforddi
ddiweddaraf.
Rydym hefyd wedi
cyflwyno technoleg newydd ar gyfer amgueddfeydd yn y DU: ARchwilwr
Amgueddfa Cymru, Profiad Rhith Realiti Cynyddol sy'n rhoi
dehongliad gwell i'n hymwelwyr o rai o'n harddangosfeydd parhaol. O
ganlyniad i adborth cadarnhaol a chanlyniadau ein gwerthusiad,
mae'r profiad yn awr yn barhaol gyda syniadau ar gyfer
datblygu’r cynnwys ar y gweill. Rydym hefyd yn cynllunio
profiadau Rhith Realiti (VR) mewn dau o'n hamgueddfeydd. Wrth
i’r Amgueddfa ganolbwyntio ar brofiadau digidol newydd fel
ffynhonell incwm posibl, rydym yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau
i bennu mentrau digidol masnachol a'r ymwybyddiaeth weithredol i
redeg y rhain.
Er mwyn gwella ein cyrhaeddiad a'n hygyrchedd ymhellach, rydym
wrthi'n comisiynu profion hygyrchedd ar gyfer y wefan. Bydd hyn yn
arwain at nifer o argymhellion o ran dyluniad, pensaernïaeth
gwefannau a chynnwys a fydd yn cael eu gweithredu dros 2019-20.
Mae'r Amgueddfa hefyd yn edrych ar anghenion mynediad yn yr orielau
yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a sut y gall technoleg digidol
helpu hyn. Byddwn yn adeiladu ar ein gwaith gyda iPads, ffonau a
Rhith Realiti i wella hygyrchedd yn ein mannau
corfforol.
Rôl ryngwladol
Mae gan Amgueddfa
Cymru bartneriaethau hirdymor, wedi'u hategu gan Memorandwm o
Ddealltwriaeth gyda llywodraethau cenedlaethol ac amgueddfeydd yn
Tsieina a Siapan. Mae gan yr Adran Gwyddorau Naturiol ei hun
bartneriaethau hirdymor gyda 40 o amgueddfeydd tramor. Yn ogystal
â benthyca sbesimenau a gwaith celf unigol, mae'r Amgueddfa
wedi teithio arddangosfeydd cynhyrchu incwm mawr dros y degawd
diwethaf i'r Gwlff, yr Unol Daleithiau a Siapan. Rydym yn y broses
o derfynu Memoradwm gydag Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, i'w
lansio yng Ngwanwyn 2019 ac rydym yn ehangu ein partneriaethau
rhyngwladol, a fydd yn bwysicach fyth ar ôl Brexit i sicrhau
bod Cymru'n parhau i chwarae rôl flaenllaw ar y llwyfan
rhyngwladol.
Partneriaethau gydag amgueddfeydd eraill yng
Nghymru
Mae'r Amgueddfa'n cydweithio'n agos â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, ac mae'n cefnogi amgueddfeydd lleol trwy fenthyciadau ac arddangosfeydd. Mae hyn yn cynnwys ein perthynas 10 mlynedd sy'n darparu arddangosfeydd gydag Oriel Y Parc ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro. Yn 2014, ar ôl absenoldeb o 20 mlynedd, cydweithiodd Amgueddfa Cymru a'r Ffederasiwn i gynnal cynhadledd flynyddol fwyaf arloesol a llwyddiannus Cymdeithas Amgueddfeydd y DU hyd yn hyn. Bydd y gynhadledd yn dychwelyd i Gymru yn 2020 neu 2021. Etifeddiaeth y gynhadledd oedd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, ac mae Amgueddfa Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag amgueddfeydd lleol i gyflwyno'r Ŵyl bob blwyddyn ers hynny. Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn cydweithio gyda’r Ffed ag eraill ar ddatblygu Strategaeth Amgueddfeydd newydd i Gymru.
Adnewyddu To Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar gau ers mis Medi 2018 hyd at Hydref 2019 er mwyn cwblhau gwaith cadwraeth ar y to. Er fod yr Amgueddfa ar gau bydd staff yn parhau i gynnal rhaglenni gwaith ar gyfer ysgolion yn ystod y cyfnod hyn.
Sut
rydym yn cyflawni hyn. . . . Ein Hunaniaeth
Unigryw
Ein
hymrwymiad i'r cyhoedd
Mae ein
Gweledigaeth ‘Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau’ yn
mynegi ein hymrwymiad at gyfiawnder cymdeithasol trwy gyfranogiad
diwylliannol ac yn sylfaen i’n holl waith. Mae ymchwil yn
sail i bob peth a wnawn, ac mae ystod eithriadol ein hymchwil ar
sut mae ymwelwyr yn dysgu a chyfranogiad ddiwylliannol yn rhoi
dyfnder dealltwriaeth i ni o werth cymdeithasol ac effaith ein
partneriaethau cymunedol, ein harddangosfeydd a'n rhaglenni
addysg.
Rhyngddisgyblaethol
Yr Amgueddfa yw'r amgueddfa genedlaethol fwyaf rhyngddisgyblaethol
yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys: Celf, Dylunio, Gwyddorau Daear,
Gwyddorau Bywyd, Archeoleg, Hanes Cymdeithasol, Hanes Llafar, Hanes
Diwydiannol, a Dysgu a Gwyddorau Cymdeithasol eraill.
Dosbarthiad daearyddol
Mae gan yr Amgueddfa safleoedd yng Ngogledd Orllewin Cymru
(Amgueddfa Lechi, Llanberis), Gorllewin Cymru (Amgueddfa
Wlân, Drefach), De Orllewin Cymru (Amgueddfa’r Glannau,
Abertawe), a De Ddwyrain Cymru (Sain Ffagan ac Amgueddfa
Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Caerllion, a Big
Pit ym Mlaenafon), yn ogystal â'r Ganolfan Gasgliadau
Genedlaethol yn Nantgarw. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth
ag Amgueddfa Wrecsam ac Oriel y Parc, yn ogystal ag amgueddfeydd
lleol ledled Cymru i sicrhau mynediad i'r casgliadau
cenedlaethol.
Casgliadau ac arbenigedd curadurol
Mae gan Amgueddfa Cymru dros 5 miliwn o
wrthrychau. O'r rhain mae tua 3 miliwn o sbesimenau yn y casgliad
gwyddoniaeth naturiol a drwy'r rhain, mae'r Amgueddfa yn cynnal yr
unig sail dystiolaeth genedlaethol ar gyfer newid yn yr hinsawdd
yng Nghymru dros ganrifoedd a miloedd o flynyddoedd - adnodd
hanfodol i'r genedl yn awr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn cadw'r
archif archeolegol ar gyfer dros 50% o'r amgylchedd hanesyddol yng
Nghymru, cyfanswm o 1,275,000 o wrthrychau. Mae ganddi hefyd y
casgliad mwyaf arwyddocaol o hanes cymdeithasol a hanes llafar yng
Nghymru, sy'n cynnwys 396,823 o eitemau. Mae'r Amgueddfa hefyd yn
cadw'r casgliadau cenedlaethol o gelf Cymreig ac Ewropeaidd, gan
gynnwys rhai o'r gweithiau gorau yn y byd.